Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg

Cyfarfod am 18.30 ddydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014, Ystafelloedd Cynadledda C a D, Tŷ Hywel

COFNODION

Yn bresennol: David Rees AC (yn y gadair); Keith Davies AC; Helen Francis (CBAC); Dr Stephen Benn (Y Gymdeithas Fioleg); Yr Athro Keith Smith (Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol); Beti Williams MBE (Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain); Dr David Jones (Y Gymdeithas Ddaearegol); Dr Tom Crick (Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg); Andy Pugh (Sefydliad Peirianneg Fecanyddol); Jessica Leigh Jones (Labordy Mellt Morgan-Botti, Prifysgol Caerdydd); Cerian Angharad (Y Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth); Sara (Crwsibl Cymru), Samantha Murphy (Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol) a Leigh Jeffes (Cydgysylltydd y Group).

 

Croeso

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan gynnwys yr Athro Denis Murphy, y siaradwr gwadd, a Samantha Murphy a Jessica Leigh Jones.

 

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cafwyd ymddiheuriadau gan: Simon Thomas AC, Eluned Parrott AC, Angela Burns AC, Nick Ramsay AC, Dr Rhobert Lewis, Dr Geertje van Keulen, Joanne Ferris, yr Athro Peter Knowles, Elizabeth Terry, Alison Braddock, Dr Dayna Mason, yr Athro Faron Moller, yr Athro John Tucker, Dr Rhys Phillips, yr Athro Ian Wells a Dr David Cunnah.

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2013

Roedd y rhain wedi’u dosbarthu (nid oedd aelodaeth lawn yn y cyfarfod diwethaf a drefnwyd oherwydd dadl bwysig yn y Senedd), felly cafodd cofnodion y cyfarfod ym mis Tachwedd eu hystyried.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

 

 

Gwyddoniaeth a’r Cynulliad 2014

Siaradodd Leigh Jeffes am y digwyddiad gwyddonol blaenllaw hwn eleni, a gynhaliwyd yn y Pierhead a’r Senedd ar 20 Mai ac a oedd wedi denu’r nifer uchaf erioed o gyfranogwyr, arddangosfa lawn yn cynrychioli 25 o sefydliadau ynghyd â rhaglen o siaradwyr gwadd o’r safon uchaf.  Y thema oedd: Addysg wyddoniaeth yng Nghymru.

Diolchodd i David Rees AC am noddi’r digwyddiad, a gefnogwyd gan Simon Thomas AC, Eluned Parrott AC a Suzy Davies AC, a oedd yn dirprwyo ar ran Angela Burns AC.

 

Cynhelir y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Cynulliad y flwyddyn nesaf ddydd Mawrth 19 Mai.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Leigh Jeffes a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol am drefnu digwyddiad mor hynod lwyddiannus.

 

Digwyddiadau i ddod / newyddion – Cymdeithasau Dysgedig a Chyrff Proffesiynol

Rhoddodd cynrychiolwyr y Cymdeithasau Dysgedig a chyrff proffesiynol y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am ddigwyddiadau i ddod.

Roedd y rhain yn cynnwys Wythnos Bioleg (13 - 18 Hydref) a Chynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth, ddydd Sadwrn 4 Hydref, ar y gamp o gyfathrebu gwyddoniaeth, yng nghwmni’r Athro Alice Roberts, y siaradwr gwadd. Cyfeiriodd CBAC at y cyhoeddiad sydd i ddod ar fanylebau Lefel A newydd.

 

Siaradwr gwadd ar gyfer y cyfarfod ym mis Tachwedd

Mae’r Grŵp wedi clywed gan Labordy Mellt Morgan-Botti Prifysgol Caerdydd ym Mharc Busnes Compass, Caerdydd, sydd am wneud cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf. Rhoddodd Jessica Leigh Jones, a fydd yn annerch y grŵp, gipolwg ar ei sgwrs.

 

Cyflwyniad gan yr Athro Denis Murphy, Pennaeth Genomeg a Grŵp Ymchwil Bioleg Cyfrifiannol Prifysgol De Cymru

Siaradodd yr Athro Murphy ar y pwnc a ganlyn: Biowybodeg - cyfuniad pwerus o dechnoleg gwybodaeth a biowyddoniaeth. Datblygiadau byd-eang newydd a rhagolygon yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Crynodeb: 

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae datblygiadau mewn cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth wedi arwain at yr hyn a elwir yn broblem ‘data mawr’. Mae hyn yn cynnwys creu symiau enfawr o ddata mewn nifer o feysydd, gan gynnwys meddygaeth, masnach, amaethyddiaeth, cyfathrebu, diogelwch gwladol a gwyddoniaeth sylfaenol. Mae dadansoddi data mawr a’u lleihau i ffurfio gwybodaeth ystyrlon yn her fawr yn ein cymdeithas gyfoethog o ran gwybodaeth. Mae gwyddoniaeth newydd biowybodeg yn defnyddio systemau cyfrifiadurol uchel eu perfformiad ac offer mathemategol newydd i wneud synnwyr o ddata mawr mewn meysydd sy’n gysylltiedig â biowyddoniaeth. Mae ein gwaith ym Mhrifysgol De Cymru yn gysylltiedig yn benodol â’r defnydd o ddadansoddiadau o ddata genomig mewn dau faes, sef y maes sy’n dod i’r amlwg o ran meddygaeth sydd wedi’i phersonoli er mwyn ymdrin â phryderon iechyd a gwella cnydau allweddol i fynd i’r afael â materion diogelwch bwyd. Yn fy sgwrs, byddaf yn rhoi trosolwg byr o’r broblem ddata mawr ac yn trafod ein defnydd o rwydwaith cyfrifiadura perfformiad uchel cyflym iawn Cymru mewn meysydd penodol fel ymwrthedd gwrthfiotig, canser a gwella cnydau mewn gwledydd sy’n datblygu. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Athro Murphy am ei gyflwyniad.

Cwestiynau i’r Athro Murphy

Atebodd yr Athro Murphy ystod eang o gwestiynau gan yr aelodau.

 

Unrhyw Fater Arall

Ni nodwyd unrhyw fater arall.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

** Nodwch fod dyddiad y cyfarfod nesaf, sef y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, wedi’i newid i ddydd Mercher 5 Tachwedd – i gydymffurfio â rheolau newydd y Cynulliad ar gyfer grwpiau trawsbleidiol.

 

Roedd y cyfarfod i fod i gael ei gynnal ar 25 Tachwedd yn wreiddiol

 

Cloi’r cyfarfod

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 19.45.